SL(6)383 – Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023 (“y Rheoliadau hyn”) yn ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff corfforedig sy’n cynnwys y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol hynny pennau bennir yn y rheoliadau sefydlu. O dan rai amgylchiadau, mae awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig hefyd; pan fo hyn yn wir, fe’i nodir yn rheoliadau sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig perthnasol.

Mae ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau 2001 yn sicrhau, oni nodir yn wahanol, fod Rheoliadau 2001 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig mewn perthynas â phwyllgorau safonau a sefydlir gan y cyd-bwyllgorau corfforedig hynny fel y byddai i awdurdodau perthnasol eraill. Mae rhywfaint o ddarpariaeth benodol wedi’i gwneud mewn cysylltiad â chyd-bwyllgorau corfforedig pan na fo Rheoliadau 2001 fel y’u drafftiwyd yn cyd-fynd â strwythur aelodaeth cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer maint, cyfansoddiad a thrafodion pwyllgorau safonau a sefydlir gan gyd-bwyllgorau corfforedig.

Maent hefyd yn cywiro dau wall bach yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2001. Mae’r gwall cyntaf yn rheoliad 7(1) o Reoliadau 2001 ac mae’n cael ei gywiro drwy roi’r gair “swyddog” yn lle’r gair anghywir “aelod” fel y nodir yn rheoliad 6(a) o’r Rheoliadau hyn. Mae’r ail wall o natur debyg ac mae yn rheoliad 7(2) o Reoliadau 2001 ac mae wedi’i gywiro drwy gyfieithu’r diwygiad yn rheoliad 6(c) o’r Rheoliadau hyn sydd, er nad yw’n gyfieithiad uniongyrchol o’r fersiwn Saesneg, yn cael yr un effaith gyfreithiol yn y ddwy iaith.  

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Craffu ar Rinweddau   

Nodwyd y 2 bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni chynhaliwyd ymgynghoriad mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn ond nodir yr esboniad a ganlyn yn Rhan 5 o’r Memorandwm Esboniadol:

“Mae'r dull cyffredinol o ddatblygu'r fframwaith deddfwriaethol sy'n sail i gyd-bwyllgorau corfforedig a'r dyletswyddau a ddylai fod yn gymwys wedi’i ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Leol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a nifer o rwydweithiau proffesiynol, gan gynnwys, er enghraifft, Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol a Chymdeithas Trysoryddion Cymru.

Roedd yr ymgynghoriad ar Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 rhwng 10 Tachwedd 2021 a 22 Rhagfyr 2021 yn gofyn i ymatebwyr a oeddent yn cytuno â'r dull arfaethedig o roi effaith lawn i gymhwysiad Rhan 3 o Ddeddf 2000 i gyd-bwyllgorau corfforedig ac roedd yn nodi'n glir y gorchmynion a'r rheoliadau penodol y byddai'n rhaid eu diwygio wedi hynny. Roedd pawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwnnw yn cytuno â'r dull a amlinellwyd.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni chynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn ond nodir yr esboniad a ganlyn yn Rhan 6 o’r Memorandwm Esboniadol:

“Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol ar wahân wedi'i lunio mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, roedd yr asesiad effaith rheoleiddiol a oedd yn cyd-fynd â Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021, Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021 a Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd-orllewin (Cymru) 2021 yn asesu’r costau a’r manteision posibl sy’n gysylltiedig â sefydlu’r cyd-bwyllgorau corfforedig drwy reoliadau. Wrth asesu'r costau a'r manteision posibl, ystyriodd yr asesiad effaith rheoleiddiol y bwriad polisi cyffredinol y dylid trin cyd-bwyllgorau corfforedig fel rhan o'r “teulu llywodraeth leol”. Felly, cafodd y costau sy'n gysylltiedig â chymhwyso Rheoliadau 2001 i gyd-bwyllgorau corfforedig eu hystyried fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol ar y rheoliadau sefydlu eu hunain.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

26 Medi 2023